Cyfeirlyfr SGC

Mae’r wefan hon yn darparu mynediad yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd at y rhychwant llawn o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC), gan gyfeirio defnyddwyr at y Cyngor Sector Sgiliau perthnasol, neu’r corff perthnasol sy’n ymwned â’r sector dan sylw, am ragor o wybodaeth.  Dyma’r tro cyntaf i bobl allu cael mynediad at yr holl SGC mewn un man ac y mae’n erfyn defnyddiol ar gyfer amryw bobl yn cynnwys cyflogwyr, unigolion, darparwyr addysg a hyfforddiant, partneriaid ac arianwyr.

 

Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, yn cynnwys eu defnyddioldeb a’u manteision, ynghyd â’r newyddion diweddaraf am ddatblygiadau.  Mae’r wefan hefyd yn galluogi defnyddwyr i chwilio am y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n cyfateb i’w anghenion a chael mynediad atynt.

 

Mae’r SGC canlynol ar gael yn Gymraeg (yn cynnwys ffeiliau pdf y gellir eu llawrlwytho neu eu hargraffu):

 

Cyfresi Llawn

Gwasanaethau Democrataidd:
http://www.ukstandards.co.uk/Find_Occupational_Standards.aspx?SuiteID=332&LanguageId=1&FormMode=ViewModeSuite&NosFindID=4


Cymorthyddion Addysgu/Dosbarth:

http://www.ukstandards.co.uk/Find_Occupational_Standards.aspx?SuiteID=309&LanguageId=1&FormMode=ViewModeSuite&NosFindID=4

 

Unedau yn unig

Asesu ymgeiswyr gan ddefnyddio dulliau amrywiol (Uned A1):

http://www.ukstandards.co.uk/Find_Occupational_Standards.aspx?SuiteNosID=12109&LanguageId=1&FormMode=ViewModeSuiteNos&NosFindID=4

Asesu perfformiad ymgeiswyr trwy eu harsylwi (Uned A2):

http://www.ukstandards.co.uk/Find_Occupational_Standards.aspx?SuiteNosID=12110&LanguageId=1&FormMode=ViewModeSuiteNos&NosFindID=4

Sicrhau ansawdd y broses asesu yn fewnol (Uned V1):

http://www.ukstandards.co.uk/Find_Occupational_Standards.aspx?SuiteNosID=12111&LanguageId=1&FormMode=ViewModeSuiteNos&NosFindID=4

Sicrhau ansawdd y broses asesu yn allanol. (Uned V2):

http://www.ukstandards.co.uk/Find_Occupational_Standards.aspx?SuiteNosID=12112&LanguageId=1&FormMode=ViewModeSuiteNos&NosFindID=4
 

Beth yw Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol?

 

Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) yn disgrifio’r hyn y mae’n rhaid i unigolyn ei wneud, ei wybod ai ddeall er mwyn ymgymryd â swydd neu swyddogaeth benodol.

 

Pa fodd y datblygir Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol?

 

Datblygir Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol gan gyflogwyr a sefydliadau sy’n cynrychioli cyflogwyr yn cydweithio mewn grðp datblygu safonau. Bydd y pwyllgor hwn yn dewis grðp bychan o ymarferwyr i ddatblygu dadansoddiad galwedigaethol drafft. Yna dilysir y drafft yn genedlaethol. Daw’r dadansoddiad yn safon galwedigaethol pan y’i cymeradwyir gan ddiwydiant.

 

Pa fodd y gellir defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol?

Gellir eu defnyddio i:

  • ddisgrifio ymarfer da mewn meysydd gwaith penodol
  • lunio datganiad o gymhwysedd sy’n cynnull y sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol i wneud y gwaith
  • ddarparu erfyn rheolaethol ar gyfer amrywiaeth o faterion rheoli gweithlu a rheoli ansawdd
  • gynnig fframwaith ar gyfer hyfforddi a datblygu
  • ffurfio sail amrediad o Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC), Cymwysterau Galwedigaethol yr Alban (CGA) ac amryw gymwysterau galwedigaethol eraill.

Pa fodd y gall Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol gynorthwyo cyflogwyr?

·        Cynyddu cynhyrchiant

·        Gwella ansawdd nwyddau a gwasanaethau

·        Lleihau costau recriwtio drwy hwyluso dethol gweithwyr newydd

·        Darparu gwell dull o gynllunio adnoddau dynol

·        Cynorthwyo i uwchraddio sgiliau yn effeithiol

·        Bod yn feincnod ar gyfer gwobrwyo profiad, gwybodaeth a chymhwyster

 

Pa fodd y mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol gynorthwyo cyflogeion?

·        Adnabod y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer galwedigaeth benodol

·        Darparu cyfeirnod i asesu gallu ac anghenion hyfforddi

·        Adnabod a chefnogi llwybrau gyrfa eglur

·        Darparu canllawiau ar gyfer ardystio/achredu

·        Cynyddu mudoledd oddi mewn i ddiwydiannau

Feedback

Tell us what you think